Tomorrow Never Knows

Clawr Revolver

"Tomorrow Never Knows", yw enw cân a gafodd ei recordio gan The Beatles, yn 1966, ac sy'n cloi'r albwm Revolver. Cafodd y gân yma ei hysgrifennu a'i chanu gan John Lennon, er iddi gael ei chofnodi fel gwaith 'Lennon/McCartney', prif bartneriaeth ysgrifennu caneuon y grŵp. Mae'r gân yma'n un sy'n sefyll allan, gan ei bod yn un o'r caneuon cyntaf 'seicadelig' a ysgrifennwyd gan y grŵp.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy